Bee Hotel, Abergele

Bee Hotel, Abergele

Un o’r tafarndai hynaf yn Abergele sy’n sefyll ar y stryd fawr.  Y tafarnwr ym 1794 oedd dyn o’r enw John Davies .  Roedd y Bee yn cael ei hadnabod fel Brenhines y Gwestai yn yr ardal ar un adeg.

Mae yno ystafell chwaraeon ac yn perthyn i gwmni J.W. Lees.

£184 oedd pris rhent y lle ym 1859.

Roedd y goets fawr wedi cyrraedd erbyn y 19eg ganrif a bwriad Davies oedd cynnig y siwrnai o Dreffynnon i Gaergybi am bris yn rhatach na phawb arall a darparu chaise a phar o geffylau am naw ceiniog y filltir.  Roedd hefyd yn cysylltu’r dre â’r orsaf a Phensarn.

 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel