Edmondes Arms, Y Bontfaen

Erbyn heddiw yr Edmondes Arms yw’r dafarn gyntaf y gwelwch wrth yrru mewn i’r Bontfaen o gyfeiriad Caerdydd.  Cafodd yr adeilad ei chodi o garreg calch Jwrasig ym 1899.  Gwelir y dyddiad ar y tu allan.  Y Parchedig Thomas Edmondes, tirfeddiannwr cyfoethog, oedd y perchennog gwreiddiol.

Mae’r adeilad, fel ag y mae, yn nodweddiadol o arddull bensaerniol oes hwyr Victoria, a bu unwaith yn fwthyn a gymerodd le dwy dafarn hŷn, sef y Red Lion ac un arall oedd yn dwyn yr enw Edmondes Arms, fu’n sefyll lle mae’r ystafell pŵl presennol.  Michael Fitzgerald oedd y tafarnwr hyd at 1901.

Chwaraeir pŵl a dartiau.  Mae erthyglau papur newydd yn esbonio arwyddocad Jack’s Corner yn y bar cefn gyda sgets ci ar y drws. 

Gardd gwrw.

Cerddoriaeth byw rheolaidd.

Contact details: 

Edmondes Arms, Cardiff Road, Y Bontfaen CF71 7EP
 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel