Masons Arms, Y Bontfaen

Y Masons Arms, adeilad Graddfa II yw’r dafarn hynaf yn y Bontfaen.  Rhai o’r nodweddion canoloesol a welir yno yw’r ffenest unigryw.  Mae’n un o’r adeiladau pwysicaf yn y dre am iddo gael ei adeiladu mewn i furiau’r dre – rhan o’r bar. 

Anne Painter oedd perchennog y lle ac ym 1784 William Thomas oedd y tenant.Roedd mewn man delfrydol i dafarn.  Yn groes i dafarnau eraill y dref, ni fu’r Masons Arms yn nwylo teulu bonedd yr ardal erioed.

Daeth yn dafarn boblogaidd iawn.  Ym 1830 fe gyfarfu ail Gorsedd Y Bontfaen yn y Masons cyn cerdded ar hyd Westgate Street.  Wedyn, ym 1835, cynhaliwyd cyfarfod ymhlith tirfeddiannwyr y dre i bennu pris gwlân.

Cauwyd y lle am gyfnod ar droad y mileniwm ac erbyn heddiw tŷ bwyta ydyw’n bennaf.

Contact details: 

Masons Arms, 66 High Street, Y Bontfaen CF71 7AH
 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel