Hand Hotel, Y Waen

Un o’r adeiladau masnachol mwyaf ac hynaf ym mhentref Chirk, gogledd - ddwyrain Cymru. Mae rhannau o’r adeilad yn mynd yn (o)l i’r 16eg ganrif ac mae’n bosib mai lleoliad gwreiddiol y dafarn oedd y Neuadd Fawr a ddinistriwyd yn ystod gwrthryfel Owain Glyndwr yn gynnar yn y 15fed ganrif.

O 1742 hyd 1753 y  tenant oedd Jane Taylor a’r enw oedd The Hand. Erbyn hynny roedd y lle yn amlwg fel tafarn goetsys gyda datblygiad rhwydwaith o heolydd rhwng Llundain a Chaergybi.

Thomas Johnson oedd y tenant o ddiwedd y 18fed ganrif hyd at y 1840au. Yn ystod y cyfnod hwnnw yr enw arni oedd y Chirk Castle Arms Inn, er mwyn, yn rhannol, ei gwahaniaethu rhag yr Hand Hotel yn Llangollen. Erbyn i Elias Griffith ddod yn denant arni ym 1856 fe’i gelwid The Hand Hotel unwaith eto.

Cynhaliwyd gornestau ymladd ceiliogod nepell o’r fan cyn eu gwahardd yn sgîl Deddf Atal Creulondeb i Anifeiliaid 1835.

Contact details: 

The Hand Hotel, Church St., Chirk, Wrecsam LL14 5EY

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel