Conwy

Machno, Penmachno

Arferai’r Machno sefyll islaw na Phont y Llan.  Fe’i hadweinir fel y Bedol yn lleol .  Yn ei anterth cludwyd  ymwelwyr yno o Fetws y Coed i gael eu te.
 

The Old Ship, Trefriw

Tafarn wedi’i chymeradwyo gan yr AA ac yn sefyll ger y Felin Wlân ym mhentref tawel Trefriw, Dyffryn Conwy.

Hen dafarn draddodiadol Gymreig â lle tân inglenook.  Arddangosir pâr o gyrn (byffylo) uwchben y lle tân.

Mae naws wledig yn perthn i’r stafell fwyta.

Gweinir cwrw traddodiadol.
 

The Albion, Conwy

Wedi’i lleoli o fewn muriau tref Conwy, adeildadwyd yr Albion tua 1925 a nawr mae’n esiampl wych o dafarn o’r 1920au.  Caewyd y dafarn am sawl blwyddyn cyn ei phrynu am £200,000 mewn arwerthiant yn 2012.  Heddiw mae 4 bragdy’n gyfrifiol amdani – Bragdy Purple Moose, Porthmadog, Bragdy Great Orme, Llandudno, Bragdy Conwy a Bragdy’r Nant, Llanrwst.

The Swan Inn, Llanfair Talhaearn

Lleolir yr adeilad or 17fed ganrif ar yr A548 rhwng Abergele a Llanrwst.  Mae’r afon Elwy yn llifo gerllaw.

Ceir dewis eang o gwrw traddodiadol yma a gellir eu mwynhau yng ngardd gwrw hen adeilad hanesyddol.
 

Red Lion, Llansannan

Credir bod rhan o’r Red Lion, Llansannan yn dyddio i’r 13fed ganrif.  Dydy’r tu mewn ddim wedi newid llawer dros y blynyddoedd, gyda’i thrawstiau, mygiau a addurniadau eraill.

Ar ôl cau y Saracens Head, y Red Lion oedd unig dafarn ar ôl yn y pentref.  Gellir mwynhau tanau agored ym misoedd y gaeaf drwy eistedd ar y stoliau yn y bar.

Sefydliad J.W. Lees ond gwaenir cwrw a allforiwyd hefyd.  Yn agos at Ddinbych, mae’r Red Lion yn fan canolog i deithiau cerdded hir yn y wlad.
 

Llanfair Arms, Llanfairfechan

Wedi’i lleoli yng nghanol Llanfairfechan ac yn dyddio o 1862, munudau o’r A55.  Mae’r afon Ddu yn llifo ar waelod yr ardd gwrw.

Aelod o’r Cask Marque ac yn gweini dewisiad da o gwrw traddodiadol.  Cynhelir nosweithiau cwis yn rheoliadd ac mae dartiau a pŵl ar gael.

Mae’r atyniadau cyfagos yn cynnwys llwybrau cerdded di-ri, traeth a chylch carreg Oes Efydd yng Nghefn Coch.
 

The Kinmel Arms, St George

The 17th century listed building is located just off the A55 in north Wales and within a few minutes of beautiful beaches.  Nearest towns include Abergele and Llandudno. 

The Kinmel Arms has a 5 star accommodation rating with both AA and Visit Wales.

Serving real ales with guest ale changing weekly!  Has achieved numerous  awards from CAMRA and also boasts a decent collection of fine wines to guests and locals alike.  
 

Giler Arms, Pentrefoelas

Saif y Giler Arms nepell o’r A55 ac yn agos at bentref Pentrefoelas sydd heb fod yn bell o Barc Cenedlaethol Eryri. Ceir golygfeydd godidog o orsydd Dinbych.

Mae’n boblogaidd â’r bobl lleol ac ymwelwyr a gweinir cwrw traddodiadol gan Fragdy Bathams (Delph).

Ceir dewis eang o chwisgi hefyd. Mae lle i wersylla a cynigir pysgota yn rhad ac am ddim i westeion.

Mae yno bwrdd pŵl.

Mae Wi-Fi am ddim ar gael.

 

The Bridge Inn, Conwy

Saif yr adeilad du a gwyn ar gornel Stryd Rose Hill yng nghanol tref  hanesyddol Conwy a ger y castell.

Gweinir cwrw traddodiadol a gwelir casgliad o fathodynau cwrw a chlipiau pwmps yn y bar. Mae lluniau o wleidyddion o Oes Fictoria ar y waliau.

Ar Facebook.

Hen Dafarn, Llandudno

The Hen Dafarn was a 17th century inn located at the top of the old road known as Llwynon Terrace.  Generally believed from the yard of the inn the Baptists introduced non-conformity to Llandundno in 1798

Pages

Subscribe to RSS - Conwy

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel