The Black Lion, Babell

Tafarn goetsys draddodiadol wedi’i lleoli yn sir Fflint nepell o’r A55. Mae’r adeilad gwreiddiol yn dyddio o’r 13eg ganrif ond fe’i ymestynwyd a’i adnewyddwyd dros y blynyddoedd. Er hynny dydy’r adeilad ddim wedi colli ei nodweddion na’i gymeriad.
Mae’r lle’n llawn hanes a gwelwyd ysbrydion ar sawl achlysur! Mae’r North Wales Paranormal Group wedi bod yn archwilio i mewn i ddigwyddiadau paranormal.
Fel arfer gweinir dau gwrw go iawn. Mae’r Black Lion wedi’i chynnwys ar daith The Flintshire Real Ale Trail pan gludir yfwyr o gwmpas y tafarndai gwledig mewn bws.
Ceir golygfeydd hyfryd o Foel Mamau a Mynyddoedd Clwyd o’r ardd gwrw.
Cynhelir nosweithiau cwis a cherddoriaeth yn rheolaidd.

Contact details: 

Black Lion, Babell, Sir Fflint  CH8 8PZ

Ar Facebook a Trydar @BlackLionBabell

Locale - Wales: 
Content category: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel