Star Inn, Dinas Powys

Un o’r adeiladau hynaf yn Ninas Powys â chanddi fynedfa yn arddull y Tuduriaid a grisiau troellog.

Yn wreiddiol fe’i hadeiladwyd fel llys Duduraidd ac ymestynnodd dros y blynyddoedd i gynnwys efail a gweithdy saer.

Ym 1831 traethodd ‘maer’ ola’r pentref, William Jenkins, o’r tu allan cyn arwain pawb i mewn i gael lluniaeth.

Ym 1927 mwynhaodd tîm pêl-droed llwyddiannus Caerdydd swper o selsig a photsh yno. Er syndod tynnodd neb llun o gwpan yr F.A.

Ym1914 gadawodd dynion dewr am y Rhyfel Mawr o risiau’r Star.

Dros y blynyddoedd bu helwyr llwynogod ac anifeiliaid eraill yn cyfarfod yno.

Gwerthir cwrw traddodiadol. Gardd gwrw fechan.
 

Contact details: 

Star, Station Road, Dinas Powys, Bro Morgannwg. CF64 4DE

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel