Old Sun Inn, Pentre

Caeodd yr Old Sun Inn, Pentre yn ystod y 1890au a daeth yn dŷ preifat.  Yn ei hanterth reodd yn fan aros i goetsys a’r tafarnwyr trwyddedig olaf y gwyddom amdano oedd Edward Phennah oedd yno o 1828 tan canol y 1830au.  Daeth ei diwedd pan adeiladodd Telford heol i Gaergybi.  Roedd y ffordd yn osgoi’r pentref a gadawyd y dafarn mewn man diarffordd.  Arferai edrych dros yr afon Dyfrdwy.
 

Locale - Wales: 
Content category: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel