Cyflwyniad

Gwireddwyd breuddwyd hir pan sefydlwyd PubsCymru. Ein nôd yw dod o hyd i dafarndai i deithwyr sychedig, yng Nghymru a thu hwnt, a chyflwyno gwybodaeth diddorol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Wrth i ni drydar efallai eich bod wedi sylwi i ni fwynhau teithio ac archwilio tafarnau yng Nghymru dros y blynyddoedd. Penderfynnon ni rannu’r profiadau yma gydag unigolion eraill sy’n diddori yn y fath beth. Dydyn teithiau ni ddim ar ben o bell ffordd  (diolch i’r drefn!) a bydd y wêfan yn parhau i dyfu wrth i ni ychwanegu at ein hymweliadau â thafarndai ledled y wlad.

Mae rhai o’r sefydliadau a rhestrwyd wedi darparu gwasanaeth i genedlaethau dros y canrifoedd a hir oes iddyn nhw ac i bob un arall. I’r rhai hiraethus yn ein plith byddwn yn cyfeirio at dafarnau sydd wedi diflannu ers amser maith. Wedi diflannu ond nid yn angof.

Ein nôd yw adeiladu indecs gynhwysfawr a dethol o hen dafarnau. Rhoddir disgrifiad hanesyddol a ffeithiau cryno am y dafarn ynghyd â llun os yn bosib. Mae’r wêfan yn cynnig cyfle unigryw i’r teithiwr i ddarganfod ac archwilio tafarnau o bob cwr o’r wlad.

Beth am edrych ar rhai o’r heolydd yng Nghymru, y siwrneiau a’r tafarnau sydd ar hyd y ffyrdd hynny (yn sicr dyw hyn ddim ar gyfer y gyrrwr!). Er mwyn helpu pobl sychedig y dyfodol gobeithio y gwnewch chi adael sylwadau am y llefydd ymwelwyd â nhw.

Gwahoddir adborth a gadewch i ni wybod am y tafarndai lu na soniwyd amdanynt hyd yn hyn. Iechyd da!      

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel