Caerdydd

Y Mochyn Du, Cardiff

Fe’i hadwaenir fel y Lodge Wine Bar, wedyn y Poacher’s Lodge cyn iddi gael ei henwi Y Mochyn Du yn 2002.

Mae’n agos iawn at Erddi Soffia a maes criced SWALEC. Noddwyd Robert Croft, capten Clwb Criced Morgannwg, gan y dafarn ar un adeg. Mae memorobalia criced ar y waliau.

Mae’n boblogaidd gyda’r cyfryngwyr a sieredir cymraeg tu ôl y bar.

Westgate Hotel, Cardiff

Adeilad swmpus ar y gornel. O eiddo Brains a adeiladwyd ymhell dros ganrif yn ôl. Ail adeiladwyd y lle yn y 1950au.

Fe’i had-ddodfrenwyd ar ddechrau’r mileniwm. Fframiwyd clip papur newydd yn dangos eliffant yn galw heibio am ddiod! Mae’r nenfwd yn uchel ac mae enwau tafarndai o gwmpas y bar.

Mae yno fwrdd pŵl a dartiau. Man smygu yn y cefn.

Tafarn olaf ar crôl Treganna

King’s Castle, Cardiff

Adeiladwyd yn y 1880au ac roedd yn dwyn yr enw Ebenezer Riley’s castle ar un adeg.  Roedd un rhan ohoni’n arfer bod yn gapel a gwelir rhan o nenfwd y capel yn yr ystafell gefn.

Roedd iddi arddull dafarn o Lundain yn y 1990au ond mae hynny wedi diflannu erbyn hyn.  Yn boblogaidd â chefnogwyr pêl-droed.

Rhan o crôl Treganna

The Foresters, Cardiff

Tafarn draddodiadol y werin a adeiladwyd ym 1892. Fe’i hadnabwyd fel O’Dwyers yn y 1990au ag iddi thema Wyddelig yn rhedeg drwy’r lle. Bywiog ar ddyddiau gemau pêl droed ac yn denu ambell i gefnogwr rygbi hefyd.

Mae sawl ysbryd yn troedio’r lle yn ôl pob sôn.

Rhan o crôl Treganna

Trist nodi bod y Foresters wedi cau ers 2014

Canton Hotel, Cardiff

Tafarn can mlynedd oed ag iddi yn enwog fel tafarn y werin a’i thrwydded ar un adeg yn nwylo seren Clwb Dinas Caerdydd, Ronnie Bird un tro.

Yn y 1990au roedd yn enowg am ei dewis o dros 40 chwisgi!

Diflannodd y byrddau pŵl a dartiau gydag adrefniadau.

Tafarn boblogaidd sy’n denu pobl fel aelodau y Super Furry Animals.

Lle digonol i barcio ceir yn y cefn. Mae’r ardd smygu yn y cefn hefyd.

Rhan o crol Treganna

Admiral Napier, Cardiff

Tafarn fawr a bywiog a adeiladwyd yn 1886 Mae'n brysur iawn pan gynhelir gemau pel droed Mae'r bwrdd pwl yn ardal y bar Chwaraeur y gem cerdiau traddodiadol Dou yma. Ers yn gynnar yn 2012 mae gwedd newydd i du allan y Napier gan gynnwys arwydd newydd

The Goscombe, Cardiff

Agorodd tafarn mwyaf diweddar Treganna ym Mawrth 2005.  Cafodd ei newid o fod yn bopty i dafarn at gost o £500,000

Gweinir bwyd trwy’r dydd a mae tai bach i fyny’r grisiau.  Ar un adeg ni chaniatawyd plant ond mae yna groeso iddynt erbyn hyn.  Mae seddi esmwyth ar bwys y bar a mae maes parcio gerllaw.

Rhan o crôl Treganna.

Canton Cross Vaults, Cardiff

Tafarn hynaf Treganna a adeiladwyd cyn 1875.

Tafarn goetsys yn wreiddiol.  Daw'r enw o'r croesfannau a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid a deithiau ar heolydd rhwng y Bontfaen a Llandaf.

Rhwng 1860 ac 1904 yr enw oedd y Canton Cross Brewery.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddiwyd y dafarn fel swyddfa ricriwtio.

Rhan o crôl Treganna ond hawdd ei methu ar ôl ychydig o ddiodydd!

The Insole, Cardiff

Tafarn leol a adeiladwyd o gwmpas 1900au, a saif nepell o Cowbridge Road East.

Mae’r awdur Cymraeg, Howard Springs, yn cyfeirio at yr Insole yn ei nofel ‘Heaven Lies About us’

Mae bwrdd pŵl yn y bar a mae’r lolfa ar ffurf y llythyren L.

Rhan o crôl Treganna ond hawdd ei methu ar ôl ychydig o ddiodydd!

Railway Inn, Cardiff

Tafarn goetsys o’r ugeinfed ganrif cynnar.  Tafarn fechan i’r bobl lleol a saif nepell o gylchdro Trelai.  Cynhelir nosweithiau pocer yno.

Roedd cyn reolwr yn rhedeg y dafarn ers 37 mlynedd.

Tudalennau

Subscribe to RSS - Caerdydd

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel