Britannia Inn, near Llangollen

Honnir i’r Britannia ddyddio i’r pedwaredd ganrif ar bymtheg.  Fe’i codwyd gan fynachod o Abaty Valle Crucis oedd gerllaw.  Mae’n rhaid bod rhai darnau wedi dod o’r Abaty eu hun.  Saif y dafarn ar waelod Bwlch yr Oernant â chanddi olygfeydd godidog o Ddyffryn Llangollen.

Nawr mae iddi ddwy lolfa ac ystafell fwyta i’r teithwyr llwglyd a lle i eistedd y tu fas i fwynhau’r golygfeydd prydferth.  Gweinir cwrw traddodiadol a derbyniodd gwobr ‘Best Cellar in wales’.  Yma hefyd ceir gwinoedd o bob cwr o’r byd a dewis eang o gwrw potel.

Mae’r Britannia wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau o dramor.  Soniodd yr L.A. Times eu body yn werth aros / galw yn y dafarn pan yng Ngogledd Cymru.  Dros y blynyddoedd mae hi wedi ennill gwobr ‘Wales in Bloom’ 15 o weithiau.

Atyniadau lleol eraill yw Castell Dinas Brân, Mynyddoedd Eglwyseg a chamlas Llangollen sy’n fyd enwog erbyn hyn. 

Honnir bod ysbrydion mynachod yn cerdded y lle!
 

Contact details: 

Britannia Inn, Horseshoe Pass, Llangollen  LL20 8DW
 

Locale - Wales: 
Content category: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel