Newport

The Goldcroft Inn, Caerleon

Caeodd y drysau yn 2010.  Gwariodd perchnogion newydd £350,000 yn adnewyddu’r lle’n gyfangwbwl.  Mae dodrefn moethus yn y bar.  Mae ar ffurf cynllun agored ac ar gyfer pobl sy’n mynd yno i fwyta’n bennaf.

Queens Hotel, Newport

Mae’r Queens Hotel, adeilad Gradd II a rhestrwyd,  mewn man cyfleus i ganol y ddinas a’r orsaf rheilffordd.  Fe’i hadeiladwyd ym 1863 gan Henry Pearce Bolt, maswn yn hannu o Ddyfnaint.  Roedd yn Faer ar dref Casnewydd o 1875 hyd 1876.  Cafodd y dafarn ei henwi ar ol y Frenhines Fictoria.

Agorodd Lloyds Bar, rhan o gwmni J.D. Wetherspoons, o fewn y dafarn yn 2009 ac yn fuan iawn death yn le poblogaidd a bywiog.

Ceir ystod eang o gwrw traddodiadol.

Ar Facebook.

Bell Inn, Caerleon

A 400 year old coaching inn located in Caerleon.  Traditional features still intact including exposed walls and wooden beams.  Decent size beer garden.  Pub divided into two for diners and for drinkers.  For years the establishment renowned for its good food, real ales and ciders.  Winner of the 2011 National Cider pub of the year for the South and Mid Wales.

The Engineers Arms, Newport

Saif yr Engineers Arms ar Albert Terrace. Hi yw’r dafarn gyntaf i’w gweld wrth fynd mewn i Gasnewydd ar y tren.  Mae’n dyddio i’r 1870au ac yn le poblogaidd gyda’r rhai hynny sy’n hoffi cwrw traddodiadol.

Gwerthwyd y dafarn am £4,500 mewn arwerthiant ym Mai 1950 pan fu farw Miss L.L. Whitts.  Roedd ei theulu wedi byw yno am 70 mlynedd.

Bwrdd pŵl yn y Lolfa

The Lamb, Newport

Ym 1872 Arglwydd Tredegar oedd perchennog y Lamb ond ym 1905 fe’i prynnwyd gan Simonds of Bristol.  Dioddefodd yr adeilad am flynyddoedd gyda dwr yn llifo i’r seler a chredir bod ffynnon tanddaearol o dan Baneswell. 

Tafarn poblogaidd yn ddinas Casnewydd.

The Picton, Newport

Mae’r Picton yn dyddio i’r 1880au a death yn rhan o Fragdy Hancocks ym 1905.  Ym 1890 cafodd tafarnwraig y Picton ei dwyn o flaen ei gwell am ganiatau chwarae hap yn ei sefydliad, sef chwarae ceilys am gwrw.

Mae’r waliau wedi’u haddurno â ffotograffau o glwb rygbi Casnewydd a phont y Transporter ayyb.

Mae yno fwrdd pŵl yn y bar.

The Alexandra Inn, Casnewydd

Mae’r Alexandra Inn yn dyddio i’r 1850au ac ym 1905 fe’i prynwyd gan gwmni Hancocks. Yn rhifyn Chwefror 1890 o’r Star of Gwent adroddwyd y byddai’r dafarn yn cael ei gwerthu mewn arwerthiant am bris o £2,250

Mae teledu yng nghornel y bar a bwrdd pwl tua’r cefn.  Mae lluniau Laurel ac Hardy uwchben y bar.

 

 

The Alma Inn, Casnewydd

Saif yr Alma Inn ar gornel Commercial Rd. a cafodd ei henwi ar ôl un o frwydrau rhyfel y Crimea.  Arglwydd Tredegar oedd y perchennog ym 1872.

Mae bwrdd pŵl ger y fynedfa.

Mae’n cael ei hadnabod fel yr Alamo gan y bobl lleol.

The Golden Hart, Casnewydd

Tafarn Ansells ar un adeg a gwelir yr enw ar yr arwydd hyd heddiw.  Ym 1893 rhingyll ricriwtio oedd y tenant.  Wrth dynnu peint arferai aros i ‘fesu’ darpar filwyr’!

Tafarn un ystafell gyda drych mawr a phaentiadau o goetsys yn y canol yn hongian ar y wal.

The Hornblower, Casnewydd

Cafodd ei galw’n The Exchange ar un adeg ac ym 1949 ysgrifennodd Fred Hando bod yno amryw o wrthrychau yn ymwneud ar môr.

Pages

Subscribe to RSS - Newport

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel