Pembrokeshire

Sergeant's Inn, Eglwyswrw

The Serjeant’s Inn was an 18th century Grade II coaching inn located in the heart of Eglwyswrw on the A 487 road.  At one time used by  the local Petty Sessions as recalled by the Pembrokeshire Antiquarian Richard Fenton:
‘Here during the stay of the itinerant counsel, a tribunal is constituted for trying all offenses against the dignity of the bar; in carrying on which mock process, an infinite deal of wit, humour and festivity is excited’

The White Hart, St Dogmaels

The 18th century White Hart stands opposite the ruined abbey and is the oldest public house in St Dogmaels.  Set into the hillside and has bar lounges on different levels with the lower level having a flagstone floor and beamed ceiling.

From 1858 to 1871 the pub was kept by master mariner William Evans. Later his daughter, Mrs Eleanor Richards took over the pub and in 1937 it was reported the White Hart, of the remaining pubs left in the village, was doing the best business and remained in the same family for over 80 years. 

The Hundred House Inn, Bleddfa

Located in the quiet Radnorshire village of Bleddfa and the inn derived its name from the court of the Hundred Townships of Cefnllys who met at the village inn in from 1524 until 1867.  Legal matters and affairs of the parish were discussed in these law courts that travelled around the remoter parts of the country. Those unfortunate to be sentenced to death at the inn were usually taken to Monaughty to be hanged.

The Trafalgar, Aberdaugleddau

Pan agorodd y dafarn ei drysau am y tro cyntaf ym 1861, The Spirit vShop oedd yr enw arni. O 1941 hyd 1956 Herbert nicholls oedd y tafarnwr trwyddedig ac roedd yn enwog am ganu cloch llong yn hytrach na galw “amser”. Daeth yn boblogaidd iawn gyda physgotwyr a cafodd ei henwi’n Devon ar ôl llong bysgota. Er mwyn cofio am gysylltiad Nelson â’r dref newidiwyd yr enw i Trafalgar yn gynnar yn y 1990au.

Kimberley, Aberdaugleddau

Yr enw ar y dafarn pan agorodd yn y 1880au oedd y New Inn a Thomas a Jane Thomas oedd yn cadw’r lle. Daeth yn boblogaidd gyda’r gweithwyr yn y dociau cyfagos.

John White oedd y tafarnwr ym 1898 a newidiodd yr enw i The Kimberley i gooffhau digwyddiad yn ystod Rhyfel Y Boer ym 1900.

Miss Mary Williams oedd wrth y llyw tan 1979 ac yn ei ‘styfnigrwydd gwrthododd adael menywod i’r bar!

Heddiw mae’n dafarn cynllun agored a honnir bod ysbryd y diweddar Miss Williams yn troedio’r lle.

Alma, Aberdaugleddau

Tafarn Brains lleol wedi’i henwi ar ôl un o frwydrau rhyfel y Crimea. Mae’n boblogaidd â dilynnwyr chwaraeon a gweinir cwrw traddodiadol. Ar un adeg bu Dick Byers, y deintydd lleol, yn rhedeg ei fusnes oddi yma ac arferai chwilio am gwsmeriaid yn nhafarndai’r dre!

Daeth y masnachwr gwinoedd, James Vaughan, yn dafarnwr trwyddeig yn y 1880au a newidiodd y lle gryn dipyn.

Cafodd dirywiad olew lleol effaith andwyol ar yr Alma a bu ar gau am gyfnod.

Country Hotel, Hwlffordd

Pan agorwyd yr hen dafarn goets ym 1842 roedd yn dwyn yr enw Salutation Hotel. Bryd hynny Mr. Fenwick,  masnachwr ceffylau, oedd y tafarnwr.

Cymerodd Walter Reynolds drosodd ym 1835 ac arhosodd yno tan canol y 1860au tra’n arwerthwr ac yn gynghorydd tref.

Ym 1940 Charles Grey oedd y tafarnwr a newidiodd yr enw i’r County Hotel.

Bu newidiadau mawr ers hynny ond erbyn y 1990au caewyd y drysau ar sawl achlysur. Yn ffodus mae’r adeilad Graddfa 11 ar agor unwaith eto ac mae busnes yn dda.

Mill-Ford Arms, Hwlffordd

Newidiwyd yr enw o’r Milford Arms yn gymharol ddiweddar. Mae arfbais y tirfeddiannwr, Arglwydd Milford, o Gastell Picton ar arwydd y dafarn.

William Powell oedd y tafarnwr trwyddedig rhwng 1809 ac 1811. Roedd yn rhingyll yn y Royal Pembroke Militia.

Daeth yn le poblogaidd a phrysur yn ystod etholiad 1831 ac fe weinodd Edward Powell, y tafarnwr, 154 brecwast a 240 swper i bleidleiswyr. Hefyd fe ddarparwyd lle i 50 o bobl i aros a chodi swllt y pen arnynt.

The Bellevue, Hwlffordd

The Horse and Jockey oedd yr enw gwreiddiol a saif yn ardal Portfield y dref, a oedd ar un adeg yn enwog am y cae rasio ceffylau cyfagos.

James Pugh oedd y tafarnwr o 1852 tan 1861 a fe hefyd oedd yn cadw’r  Rutzen Arms yn Arberth. Yn ystod y 1880au  Mrs. Sarah Ambrey oedd y dafarnwraig drwyddedig a newidiodd yr enw i’r Bellevue.

Roedd ynadon y dref yn gyfarwydd iawn â Thomas Leigh, y tafarnwr ar ddechrau’r 20fed ganrif!

The Bull, Haverfordwest

Saif yn ardal Prendergast o’r dref ar ôl ei chodi yn gynnar yn y 19eg ganrif. Roedd yn enwog fel lle da i aros. Ann Phillips oedd y dafarnwraig drwyddedig rhwng 1848 ac 1861 a daeth un o’i meibion, Tom Phillips, yn arwr yn ystod Rhyfel Y Crimea. Wedi hynny daeth yn dafarnwr trwyddedig ar yr Ivorites Arms yn y dref.

Yng nghanol yr 20fed ganrif roedd sgwâr paffio i fyny’r grisie.

Fe ddiflannodd y ‘cwtsh’ gyda’r newidiadau a gymerodd lle dros y blynyddoedd ond mae’r llawr carreg gwreiddiol wedi goroesi.

Pages

Subscribe to RSS - Pembrokeshire

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel