Pembrokeshire

Friars Vaults, Hwlffordd

Cafodd y busnes gwinoedd a gwirodydd blaenorol ei hadnabod fel y Friars Vaults yn gynnar yn yr 20fed ganrif pan gymerodd Jean Thompson at yr awennau.

Cafodd y Friars Vaults ei gwerthu i Allied Breweries a daeth yn dafarn boblogaidd yng nghanol y dref.

The Bristol Trader, Hwlffordd

Adeilad Gradd 2 sy’n dyddio i’r 1700au. Mae’r Bristol Trader yn dal i sefyll ar y cei yn Hwlffordd ac yn adlewyrchiad o’r dyddiau a fu pan oedd yn fan marchnata. Mary Llewellin oedd yn cadw’r Trader o’r 1830au cynnar tan 1870. Bu hithau hefyd yn rhedeg busnes prynu a gwerthu glo. Ym 1871 fe ymddeolodd ond arhosodd yno fel lletywraig hyd nes iddi farw y flwyddyn ganlynol yn 90 oed. Adroddodd y wasg leol – “She had been for 57 years landlady at The Bristol Trader”.

The Captain's Table, Saundersfoot

The Captain's Table, SaundersfootAdeilad mawr yng nghanol Saundersfoot. Bwyty yn y 1960au ond agorodd fel tafarn yn dwyn yr enw The Captain’s Cabin yn y 1970au. Bill a Joyce Turner oedd y tafarnwyr trwyddedig.

Mae sianeli SKY Sports a bwrdd pwl yn y lolfa yn gwneud y dafarn yn boblogaidd gyda’r to ifanc.

Gweinir cwrw go iawn. Cerddoriaeth byw yn ystod tymor prysur yr haf.

Royal Oak, Saundersfoot

Yn ystod y 19eg  ganrif daeth y Royal Oak yn ffefryn mawr gyda capteniaid llongau masnach.

Y tafarnwr trwyddedig yn y 1880au cynnar oedd John Thomas a oedd yn enwog am fod yn feddw yn fwy aml na pheidio tra’n gweithio tu nol i’r bar!

Roedd trafferthion ariannol wedi arwain Edward Cramond, y tafarnwr, i gyflawni hunan-laddiad ym 1913.

Dragon, Arberth

Cyn agor y Green Dragon yn y 1850au fferyllydd oedd y perchennog. Yn fuan iawn daeth yn boblogaidd gyda masnachwyr Arberth.

Y tafarnwr trwyddedig o 1897 hyd 1901 oedd Thomas Parcel Roberts ac yn ystod y cyfnod hwn gollyngwyd ’Green’ o’r enw. Dechreuodd cymdeithas o’r enw Hearts Of Oak wneud defnydd o’r lle.

Ailwampiwyd y lle yn y 1980au a daeth yn sefydliad cynllun agored. Arddangosir amrywiaeth o arteffactau amaethyddol. Mae stolion o gwmpas y bar a bwrdd pwl cyfleus.

The Dragon Inn, Narberth

Before becoming a pub the Dragon was formerly a chemist but became the Green Dragon in the 1850s.  It soon became popular with the tradesmen of Narberth.

The licensee from 1897 to 1901 was Thomas Parsell Roberts and during this time the ‘Green’ was dropped from the pub’s name and the Friendly Society called Hearts of Oak began using the pub during this period.

Ivy Bush, Arberth

Agorodd yr Ivy Bush ar ddechrau’r 184oau a daeth yn fan cyfarfod poblogaidd ar ddiwrnodau ffeiri a marchnadoedd. David Williams oedd y tafarnwr ym 1903 a cafodd ei orfodi, gan yr ynadon, i selio’r drws cefn er mwyn atal mynediad i bobl ar y Sul!

Ailwampiwyd yr Ivy Bush yn y 1970au ac roedd bwyty i fyny’r grisiau am gyfnod.

The Ivy Bush, Narberth

The Ivy Bush was opened in the early 1840s and became a popular meeting place during fair and market days

The landlord in 1903 was David Williams who was forced by magistrates to seal the back door to make sure no one entered the premises on a Sunday!

During the 1970s the Ivy Bush was refurbished and for a while it even had a restaurant upstairs

 

Kirkland, Arberth

Yn wreiddiol fe’i gelwid The Gate gan iddi fod mor agos at leoliad tollborth yn y dref. Agorwyd yn y 1830au ac fel nifer yn ei dydd roedd iddi iard a stablau. Yn y 1860au newidiwyd yr enw i’r Commercial a John Phillips oedd y tafarnwr trwyddedig o 1861 hyd 1867. Y tafarnwr rhwng 1901 ac 1921 oedd Frederick Thomas yr hyfforddwr a deliwr ceffylau. Cafodd ei garcharu am flwyddyn o lafur caled am iddo losgi stafell wely yn yr adeilad. Yn naturiol ni chafodd gadw tafarn wedi hynny.

Farmers Arms, Arberth

Saif y Farmers Arms ar gornel Spring Gardens ac fe’i hagorwyd yn niwedd yr 1860au gyda garddwr o’r enw John Williams yn dafarnwr.

Yn y 1950au y Farmers oedd y dafarn gyntaf yn y dref i dynnu cwrw drwy bwmp i fyny i’r bar, gan i’r tafarnwr bryd hynny, Jack Hallwood, agor y seler i fyny. Cyn hyn yr  arfer oedd i weini cwrw o’r gasgen o rhywle y tu nol i’r bar.

Cynllun agored sydd iddi nawr ond mae’n dal yn boblogaidd gyda nifer o bobl lleol, yn enwedig ffermwyr.

Pages

Subscribe to RSS - Pembrokeshire

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel