Carew Inn, Carew

Roedd yn perthyn i ystad teulu’r Trollope-Bellow a’r teiliwr lleol James Freeman oedd y tafarnwr cyntaf ym 1868. Blwyddyn yn ddiweddarach daeth yn fan cyfarfod i’r Friendly Society lleol, sef y Carew Ivorites Club.

Cadwyd at y gyfraith pan yn gwerthu cwrw a dirwywyd Martha Freeman, tafarnwraig, swllt am iddi werthu alcohol i gwsmer prin 2 funud ar ol amser cau!

Ymddangosodd adroddiad yn y West Wales Guardian ym 1935  yn datgan ‘Mrs. Ella Ingham, Astridge, has taken the Carew Inn and intends to manage it herself.............The old world inn is being completely renovated and furnished upon up-to-date lines’

Bu’r dafarn yn gartref i’r timau pel-droed a chriced lleol am gyfnod.

Contact details: 

Carew Inn, Carew, Sir Benfro

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel