Blue Anchor, Aberthaw

Yn dyddio i’r 1830au, mae’n fwy na thebyg mai’r Blue Anchor yw’r dafarn hynaf yng Nghymru.  Roedd Aberthaw yn borthladd prysur iawn ar un adeg, yn wir yn fwy prysur na Chaerdydd a’r Barri.  Mae’r enw yn cyfeirio at y cyfnod hwn.  Mae iddi do gwellt, waliau o gerrig a thrawstiau pren.  Ar un adeg mae’n siŵr y bu’n gartref i ffermwr cefnog.

Bu’n rhaid cau’r adeilad yn 2004 yn dilyn tan – y tro cyntaf iddi gau ei drysau ers y 1380au!

Roedd y Blue Anchor yn rhan o ystad Fonmon tan 1941 ond ers hynny mae wedi bod yn nwylo teulu’r Coleman.

Fe’i defnyddiwyd mewn sawl golygfa ffilm a theledu dros y blynyddoedd gan gynnwys ‘Killer Elite’, ffilm enfawr o Hollywood.

Cynigir ystod eang o gwrw traddodiadol ac ma’r ystafell fwyta i fyny’r grisiau.

Mae tanau log yn cael eu cynnau yn y gaeaf.

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel