The Bellevue, Hwlffordd

The Horse and Jockey oedd yr enw gwreiddiol a saif yn ardal Portfield y dref, a oedd ar un adeg yn enwog am y cae rasio ceffylau cyfagos.

James Pugh oedd y tafarnwr o 1852 tan 1861 a fe hefyd oedd yn cadw’r  Rutzen Arms yn Arberth. Yn ystod y 1880au  Mrs. Sarah Ambrey oedd y dafarnwraig drwyddedig a newidiodd yr enw i’r Bellevue.

Roedd ynadon y dref yn gyfarwydd iawn â Thomas Leigh, y tafarnwr ar ddechrau’r 20fed ganrif!

Yn ddiweddarach roedd rheol lem yn bodoli lle caniateir dynion yn unig a gorfodwyd i’r menywod yfed yn ardal preifat y teulu. Caeodd y lle erbyn diwedd y 1990au ond erbyn heddiw mae ar agor eto.

Contact details: 

Bellevue, Portfield, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1BS

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel