Bennett's Navy Tavern, Abergwaun

Y Red Lion oedd enw’r lle yn wreiddiol. Agorwyd y dafarn ym 1826 gan ysgolfeistr o’r enw James Davies. Yn ddiweddarach bu’n rhedeg busnes gwinoedd a gwirodydd llwyddiannus o’r lle. Priododd ei ferch, Elizabeth a George Bennett a bu e’n rhedeg y dafarn am ddeugain mlynedd.

Ailwampiwyd y lle ym 1932 a cafodd ei enwi’n Bennett’s Lion Hotel. Newidiodd yr enw eto yn y 1960au pan ddaeth yn adnabyddus fel bar gwinoedd o’r enw Bennett’s. Thomas George Howell a William Bennett Howell, aelodau o’r 5ed genhedlaeth o’r teulu, oedd yn rhedeg y lle.

Nid y teulu sy’n cadw’r lle erbyn hyn a’r enw presennol yw Bennett’s Navy Tavern.

Contact details: 

Bennett's Navy Tavern, Abergwaun, Sir Benfro

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel