The Bristol Trader, Hwlffordd

Adeilad Gradd 2 sy’n dyddio i’r 1700au. Mae’r Bristol Trader yn dal i sefyll ar y cei yn Hwlffordd ac yn adlewyrchiad o’r dyddiau a fu pan oedd yn fan marchnata. Mary Llewellin oedd yn cadw’r Trader o’r 1830au cynnar tan 1870. Bu hithau hefyd yn rhedeg busnes prynu a gwerthu glo. Ym 1871 fe ymddeolodd ond arhosodd yno fel lletywraig hyd nes iddi farw y flwyddyn ganlynol yn 90 oed. Adroddodd y wasg leol – “She had been for 57 years landlady at The Bristol Trader”.

William Skinner oedd y tafarnwr nesaf a daeth e’n enwog am fagu cŵn hefyd.

Ar ddiwedd y 1950au Mrs. Doris Manson oedd yn cadw’r Trader a hi oedd y dafarn gyntaf yn y dref i gael carpedi ar y llawr yn hytrach na’r blawd llif traddodiadol.

Fe’i hadnewyddwyd gryn dipyn yn y mileniwm newydd ac ymestynnwyd y tŷ bwyta yn 2004.

Mae’n dal gwobr Casque Marque ac yn aelod O’r Good Beer Guide.

Contact details: 

The Bristol Trader, Quay Street, Haverfordwest, Pembrokeshire SA61 1BE

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel