Kirkland, Arberth

Yn wreiddiol fe’i gelwid The Gate gan iddi fod mor agos at leoliad tollborth yn y dref. Agorwyd yn y 1830au ac fel nifer yn ei dydd roedd iddi iard a stablau. Yn y 1860au newidiwyd yr enw i’r Commercial a John Phillips oedd y tafarnwr trwyddedig o 1861 hyd 1867. Y tafarnwr rhwng 1901 ac 1921 oedd Frederick Thomas yr hyfforddwr a deliwr ceffylau. Cafodd ei garcharu am flwyddyn o lafur caled am iddo losgi stafell wely yn yr adeilad. Yn naturiol ni chafodd gadw tafarn wedi hynny.

Yn ystod y 1950au newidiodd yr enw eto i Kirkland ar ol ennillydd ras y Grand National ym 1905. Credir i’r ceffyl aros yno (mewn stabal) ar ei ffordd i Aintree.

Contact details: 

Kirkland, Arberth, Sir Benfro

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel