Mill-Ford Arms, Hwlffordd

Newidiwyd yr enw o’r Milford Arms yn gymharol ddiweddar. Mae arfbais y tirfeddiannwr, Arglwydd Milford, o Gastell Picton ar arwydd y dafarn.

William Powell oedd y tafarnwr trwyddedig rhwng 1809 ac 1811. Roedd yn rhingyll yn y Royal Pembroke Militia.

Daeth yn le poblogaidd a phrysur yn ystod etholiad 1831 ac fe weinodd Edward Powell, y tafarnwr, 154 brecwast a 240 swper i bleidleiswyr. Hefyd fe ddarparwyd lle i 50 o bobl i aros a chodi swllt y pen arnynt.

Yna daeth y Mill-Ford yn boblogaidd gyda’r ffermwyr arferai ymgynnull yno ar ddiwrnodau mart a marchnad.

Ceir cwrw traddodiadol yno.

Contact details: 

Mill-Ford Arms, Cartlett, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2LH

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel